YR AWDWR.


 

 

I’R AIFFT     

    AC YN OL:

 

 

 

GAN Y

 

Parch. D. RHAGFYR JONES,

 

TREORCI.

 

 

 

 

GWRECSAM:

Hughes a’i Fab, Cyhoeddwyr

 

1904.

 


CYFLWYNIAD.

 

 

I’R

Henadur E. H. Davies, Ysw., Y.H.,

PENRE, RHONDDA,

YR HWN YN GYNTAF A GEISIODD

GENYF WNEUD MOES-GYFARCHIAD YN Y

FFURF YMA I’R CYHOEDD ODDIAR LWYFAM Y WASG,

A’R HWN SYDD YN DYFOD YN FWY HYSBYS O

FLWYDDYN I FLWYDDYN YN EI ENWAD

A’I WLAD FEL UN O’R BONEDDWYR

MWYAF LLENGAROL, DYNGAROL,

A CHRISTGAROL,

Y CYFLWYNAF Y GYFROL FECHAN ANELWIG HON,

TRWY EI GANIATAD.


RHAGDRAETH.

YMAE llawer wedi ei ysgrifenu ar ymweliadauâ’r Aifft a Chanaan, o dro i dro,mewn ieithoedd eraill yn gystal ag yn yGymraeg. Ond credaf fod lle i’r llyfr hwn, amei fod yn wahanol i’r rhan fwyaf, os nad yr oll,o’i gyfathrach.

Bydd yn fwy personol.

Yma ceir y golygfeydd a’r digwyddiadau nidyn sefyll allan ar eu pen eu hun, fel pethau diberthynas;yn hytrach deuant atom â lliw myfyrdody gweledydd arnynt i gyd. Bydd arddullac argraffiadau meddyliol yr awdwr yn rhan ohonynt, ac yn eu gwneud felly yn wahanol i’rhyn ydynt gan neb arall.

Nid yw llyfr o fath hwn i’w restru ymysgarwein-lyfrau (guide-books) a phethau o’r fath:llenyddiaeth ydyw, ac fel llenyddiaeth y mae i’wddarllen a’i fwynhau. Os na fydd y darllenyddyn cydweled â phobpeth, bydd hyny’n glod i’rawdwr ac iddo yntau, fe ddichon; oblegid gwnmai hoffach gan yr awdwr fydd deffro meddwl,a’i gadw ar ddihun, nag enill rhywysgafn-air ogymeradwyaethteg yr olwg arno, ond byr ei hoedl.

Os daw’r llyfr â ni i adnabod yn well yDwyreinfyd didwrf, cryd yr hil a chryd eincrefydd, bydd hyny yn dâl am ei ddarllen acam ei ysgrifenu.

...

BU KİTABI OKUMAK İÇİN ÜYE OLUN VEYA GİRİŞ YAPIN!


Sitemize Üyelik ÜCRETSİZDİR!